Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Dyma ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ran Cyngor Sir Fynwy.

Rydym yn croesawu’r cyfle i roi sylwadau ar y Bil.  Yn anffodus, o ganlyniad i amseriad yr Etholiad Cyffredinol a’r ddyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion, ni chafodd y cyngor llawn gyfle i drafod y Bil.

 

Rhan 1 - Etholiadau

Rydym yn croesawu’r cynigion i ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed fel rhan o ymgais i gynyddu ymgysylltiad democrataidd a chyfranogi.  Fel rhan o unrhyw newid mae’n bwysig bod rhybudd digonol yn cael ei roi i Reolwyr Etholiadau er mwyn sicrhau bod y cyfnod o drawsnewid i drefniadau newydd, gan gynnwys targedu cofrestru pleidleiswyr newydd, yn un esmwyth.  Rydym hefyd yn cefnogi’r cynigion i ganiatáu dinasyddion yr UE sydd wedi ymgartrefu yma i gymryd rhan lawn yn yr etholiadau lleol.

Rydym yn cefnogi atal unigolion rhag sefyll mewn etholiad fel cynghorwyr pan maent yn ddarostyngedig i ofynion hysbysu’r Ddeddf Troseddau Rhyw 2003.

Nid ydym yn gefnogol o'r cynigion i ganiatáu cynghorau i ddewis eu trefn bleidleisio eu hunain ar gyfer etholiadau lleol.  Byddai cael dwy system wahanol mewn lle yng Nghymru yn creu cymhlethdod o ran gweinyddu a gallai achosi dryswch ymysg etholwyr.  Fodd bynnag, byddem yn awyddus i weld Cymru’n treialu’r defnydd o dechnoleg ddigidol o fewn ei systemau pleidleisio o dan y pwerau y cyfeirir atynt yn adran 26 a 27.

Rydym yn cefnogi ymestyn tymor cynghorau yn ffurfiol o 4 i 5 mlynedd yn unol ag arfer diweddar.

Fel yr ydym wedi nodi’n barod, rydym yn cefnogi’r cynigion ger bron sy’n ei gwneud yn haws i bobl gymryd rhan mewn democratiaeth leol. Gallai hyn helpu i gynyddu amrywiaeth ymysg aelodau etholedig sy’n gwasanaethu pobl Cymru.  Er hyn, mae gennym bryderon ynglŷn â chaniatáu i swyddogion sefyll fel ymgeiswyr i awdurdod sy’n eu cyflogi.  Gallai hyn gael effaith negyddol ar berthnasau gweithiol, a fyddai’n parhau y tu hwnt i gyfnodau etholiad gan greu aneglurder o ran dyletswyddau swyddogion cyflogedig a swyddogion etholedig.  Mae swyddogion yn gweithio i’r Cyngor, heb duedd ac ni waeth beth fo’r weinyddiaeth.  Pe byddai rhywun yn sefyll mewn etholiad dros blaid benodol, yn colli, yna’n dychwelyd i’r gwaith, gallai hyn achosi problemau o ran cyhuddiadau posib gan aelodau’r cyhoedd o duedd.

 

Rhan 2 – Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol

Rydym yn croesawu’r pŵer cymhwysedd cyffredinol a fyddai’n cynyddu gallu awdurdodau lleol i arloesi a dod o hyd i ffynonellau cyllid newydd y gellid eu defnyddio fel sail i gyflenwi gwasanaethau craidd. Dylai Cyfreithwyr Llywodraeth Cymru a Swyddogion Monitro wneud gwaith pellach er mwyn gwneud yn siŵr bod drafft terfynol y Bil yn adlewyrchu’r gwersi sydd wedi eu dysgu yn Lloegr, sef bod angen i gynghorau edrych ar bob cyfraith arall cyn drafftio cyfraith newydd, er mwyn sicrhau mai anaml iawn y caiff ei defnyddio at bwrpas ar wahân i wneud cyfiawnhad terfynol. 

 

Rhan 3 – Hyrwyddo Mynediad i Lywodraeth Leol

Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i’r dyhead sydd yn y Bil i wella cyfranogiad a mynediad i lywodraeth leol.  Nid ydym yn cytuno y dylai llywodraethau lleol fod yn gyfrifol am gyfranogiad o fewn haenau eraill y llywodraeth am fod y rhain yn gyrff sofran a fyddai eisiau parhau i fod yn atebol dros eu dyheadau a’u gweithgareddau eu hunain er mwyn gwella ymgysylltiad.

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw cynnwys y cyhoedd.  Er hyn, mae’r gofyn i gynnwys pobl leol wedi ei wreiddio mewn cyfraith yn barod ar gyfer cyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad yng Nghymru fel rhan o’r Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol felly nid ydym yn cytuno â’r angen am ddeddfwriaeth bellach yn y maes hwn.  Rydym yn cefnogi cynigion sy’n ymwneud â chynllun deiseb leol, er hyn, mae’n bwysig bod yn eglur o fewn y Bil ac wrth roi cyhoeddusrwydd cenedlaethol i’r rhain, nad refferenda yw deisebau, ac mai cynghori y maent yn hytrach na rhwymo.

Mae bod yn agored yn un o werthodd craidd Cyngor Sir Fynwy ers amser maith ac rydym wedi bod yn ffrydio cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a’r pwyllgorau’n fyw ers sawl blwyddyn.  Ar hyn o bryd ychydig iawn mae hyn yn ei gostio i ni gan ein bod yn defnyddio YouTube a byddem yn erbyn dull sy’n rhu gyfarwyddol sy’n clymu awdurdodau i ddulliau drud na fyddai, o bosib, yn adlewyrchu’r amgylchedd ddigidol sy’n brysur newid.  Bydd yn bwysig, hefyd, gwneud yn siŵr bod diogelwch priodol mewn lle i alluogi cyfarfodydd i fynd yn eu blaen pe byddai’r dechnoleg yn methu – er enghraifft pe byddai amhariad i’r band eang – mae problemau fel hyn yn aml y tu hwnt i reolaeth cyrff cyhoeddus a byddent, heb os, yn ffactor wrth gynnal cyfarfodydd mewn lleoliadau gwahanol ar draws y Sir, lleoliadau heb gysylltiad gwydn â’r we a fyddai’n ei gwneud yn anodd cydymffurfio â bwriad y cymal yma.  Byddai’n anaddas i benderfyniadau, a wnaed pan nad oedd ffrydio-byw yn digwydd, fod yn ddarostyngedig i her gyfreithiol ar y sail yna’n unig, ac er bod adran 53(6) yn ceisio datrys y broblem yma, mae amheuaeth o hyd ynglŷn â yw’n cael blaenoriaeth dros y paragraffau blaenorol.

Mae pryder hefyd y gallai hyn ei gwneud yn fwy tebygol i awdurdodau lleol dderbyn her o safbwynt dyletswydd cydraddoldeb.  Mae’r manylion ynglŷn â pha mor briodol yw cyfarfodydd y cysylltir â hwyl o bell ar gyfer y rheiny sydd ag anabledd synhwyrol, neu’r rheiny sydd angen gwasanaeth cyfieithu yn aneglur, ac mae’n siŵr o arwain at gostau ychwanegol.

Nid yw ‘canllaw cyfansoddiadol’ yn gynnig ymarferol am y gallai arwain at gamddehongliad o system gymhleth o reolau a gweithdrefnau.  Yn hytrach, gellid gwneud gwaith ar lefel genedlaethol i wneud yn siŵr bod dealltwriaeth ehangach o swyddogaethau a phwerau gwneud penderfyniadau a strwythurau sy’n bodoli o fewn haenau gwahanol y llywodraeth, ynghyd â gwaith lleol i wneud yn siŵr bod cyfansoddiad cynghorau wedi eu strwythuro mewn iaith sydd mor hawdd i’w deall â phosibl.

Mae’r awdurdod hwn wedi newid ei gyfansoddiad yn barod er mwyn galluogi pobl i fod yn bresennol mewn cyfarfod o bell ac mae’n croesawu’n manylyn sy’n cynnig mai awdurdodau lleol fyddai’n penderfynu sut y mae hyn yn cael ei gyflawni.

 

Rhan 4 – Prif Swyddogion, Aelodau, Swyddogion a Phwyllgorau Llywodraeth Leol

Dim ond drwy geisio denu ystod eang o dalent ac amrywiaeth o bob cefndir a chroesawu unrhyw drefniadau sy’n gwneud swyddogaeth cynghorydd yn fwy deniadol i amrywiaeth o bobl, gan gynnwys rhai gyda theuluoedd ifanc, gan gynnwys y gallu i rannu rhai swyddogaethau gyda swydd arall y bydd ein cymunedau’n elwa i’r eithaf.

Mae gennym bryderon ynglŷn a’r posibilrwydd y byddai Gweinidogion Cymru’n dod yn rhan o drefniadau rheoli perfformiad arweinwyr cynghorau a’u Prif Weithredwr. Rydym yn teimlo y dylid ymdrin â’r materion rhain yn lleol. 

Nid ydym yn gweld gwerth mewn rhoi cyfrifoldeb ar y pwyllgor safonau i wneud adroddiad blynyddol i’r Cyngor.  Dylai hyn fod yn fater i’w ddyfarnu’n lleol. 

 

Rhan 5 – Cydweithio rhwng Prif Gynghorau

Yn ystod misoedd ddiweddar mae trafodaethau helaeth wedi bod ynglŷn â Phwyllgorau Cydweithrediadol ar y Cyd (PCC), ac mae’r teulu llywodraeth leol wedi lleisio pryder gwirioneddol ynglŷn â’r egwyddor ac ynglŷn â gorfodi hyn. Fe’i gwelir fel ffordd o danseilio democratiaeth leol. 

Mae cynnwys y gofyniad o fewn y bil, mai dim ond yn y meysydd y cyfeirir atynt yn adran 79(3) ac yn dilyn ymgynghoriaeth helaeth yn lleol gyda’r grwpiau a amlinellwyd y gall Gweinidogion sefydlu PCC yn gam positif i ffwrdd oddi wrth gorfodaeth, a cham positif arall yw’r cafeat mai dim ond gyda chaniatâd y PCC ei hun ac awdurdodau lleol perthnasol eraill y gellid newid pwrpas PCC sefydledig yn unol ag adran 82. Er hyn, byddwn yn cynnig bod hyn yn mynd ymhellach ac y cynnig mai dim ond gyda chaniatâd llywodraethau lleol y gellir sefydlu PCC ac nad yw Llywodraeth Cymru yn cael yr hawl i orfodi eu bod yn cael eu sefydlu. At hyn byddem yn croesawu’r cyfle i barhau i gyfrannu at y drafodaeth yma’n y dyfodol.

Drwy drafodaethau, gobeithiwn weld mwy o eglurder ynglŷn ag amryw o ystyriaethau’n ymwneud â PCC, er enghraifft; a fydd gan yr Ombwdsmon bwerau dros y rheiny sy’n ymgymryd â dyletswyddau fel rhan ohonynt; a fydd angen Swyddogion Monitro a Phwyllgor Safonau eu hunain arnynt; pwy fydd yn ymgymryd â gweithgarwch yn ymwneud â chraffu; sut y bydd delio â materion sy’n berthnasol i un Cyngor; a fydd gofyn gorfodi presenoldeb Aelodau ayyb?

 

Rhan 6 – Perfformiad a Llywodraethu Prif Gynghorau

Rydym yn falch o weld diddymiad Rhaglen Gwella Cymru a darpariaethau perfformiad Mesur Llywodraeth Leol (Cymru)  2009. Rydym yn gefnogol o hunan asesu mewn egwyddor ond mae gennym bryderon ynglŷn â’r adnoddau a fyddai eu hangen ar gyfer llunio Asesiadau Panel gorfodol a fyddai’n cael eu gwneud pob tymor etholiadol.  Mae gennym rai pryderon hefyd ynglŷn â p’unai y bydd adran 93 o’r Bil yn arwain at Weinidogion Cymru’n ymwneud yn uniongyrchol â phenodi aelodau o’r panel yn hytrach na gadael y penderfyniad yn nwylo aelodau lleol.  Er hynny, mae ymgysylltu helaeth wedi digwydd mewn perthynas â datblygu’r adran yma o’r Bil drwy’r rhwydweithiau CLlLC ac rydym yn falch o weld sut mae hyn wedi helpu i siapio’r trefniadau.

Rydym yn cefnogi swyddogaeth arfaethedig Pwyllgorau Llywodraethu Corfforaethol ac Archwilio newydd.  Ar hyn o bryd caiff ein Pwyllgor Archwilio ei gadeirio gan leygwr ac rydym yn gweld gwerth mawr i hyn.  Fodd bynnag, rydym yn teimlo y dylai penderfynu faint o leygwyr sy’n eistedd ar y pwyllgorau rhain fod yn benderfyniad lleol yn hytrach na phenderfyniad cenedlaethol.

 

Rhan 7 – Uno ac Ailstrwythuro Prif Feysydd

Mae llawer o egni ac amser wedi ei dreulio’n trafod uno Llywodraethau Lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Nid ydym yn bwriadu ail danio’r trafodaethau rhain yn yr ymateb yma, ond yn hytrach, ei ddefnyddio fel cyfle i ail bwysleisio ein cefnogaeth i’r hyn sy’n deillio o’r Gweithgor Diwygio Llywodraeth Leol.

 

Rhan 8 - Cyllid

Byddai rhoi hawl i Awdurdodau Bilio archwilio eiddo, o bosib, yn creu mwy o gostau, ac rydym falch bod hyn yn cael ei gydnabod.

Mae’r cynnig i gysylltu’r lluosydd cynnydd NDR i’r Mynegai Prisiau Prynwyr er mwyn cydymffurfio â Lloegr yn cael ei groesawu am ei fod yn creu peth cysondeb ac yn dileu’r angen am archeb flynyddol.

 

Mae cael gwared o’r bygythiad o garchar yn newid positif.  Fodd bynnag, mae hyn, o bosib, yn effeithio ar allu cynghorau i gasglu dyledion Treth Cyngor, am nad oes canlyniadau gwirioneddol i’r rheiny sy’n gwrthod talu dro ar ôl tro.  Byddai’n ddefnyddiol, er enghraifft, pe byddai sgôr credyd unigolyn yn cael ei effeithio os nad yw’n talu Treth Cyngor. 

 

Rhan 9 - Amrywiol

Rydym yn croesawu dileu’r adran o fewn mesur 2011 sy’n atal Swyddog Monitro rhag bod yn Bennaeth Gwasanaethau Democratiaeth hefyd. Gall hyn arwain at orfod rhannu rhai dyletswyddau allweddol, sy’n arwain at broblemau.

Mae’r posibilrwydd o wahanu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus sydd wedi uno neu eu gwahanu’n rhannol yn cael ei groesawu.

 

 

Ar ran

Y Cynghorydd Peter Fox OBE
Arweinydd Cyngor Sir Fynwy